Syniadau am Daith
Syniadau:
O dref i dref, ysgol i ysgol, eglwys i eglwys, mosque i mosque, siop i siop, caffi i gaffi .. neu unrhyw gyfuniad o rhain.
Cerdded Terfynau’r Plwyf: Byddwch yn falch o statws Masnach Deg eich tref. Cerddwch o amgylch terfyn y dref gan osod arwyddion masnach Deg ar y ffordd. Mae Cerdded Terfynau’r Dref yn draddodiad hanesyddol, sydd yn dal i’w gael ei gynnal mewn rhai ardaloedd.
Ewch i Cerdded y terfynau am fwy o fanylion, a syniadau sut i’w addasu. Meddylir bod ei wreiddiau yn dod o’r “Terminalia Rhufeinig”, sef gwyl oedd yn cael ei dathlu ar Chwefror 22 yn deyrnged i Terminus, Duw y tirnoda. Offrymwyd cacennau a gwin iddo. Felly beth am ail greu hyn gyda cacennau a gwin Masanch Deg ar ddiwedd y daith.
Gwneud cysylltiadau:
Mae cysylltiadau gyda grwpiau cerdded lleol yn esiampl dda, ond mae yna lawer o rhai eraill y gallech eu meithrin
- Mae Cerdded y Terfynau yn rhoi cyfle i greu cyswllt gyda cymdeithasau hanesyddol lleol. Mae Grwp Masnach Deg Rhydaman yn trefnu taith gyda hanesydd lleol o amgylch pontydd sydd yn nodi ffiniau’r dref. Mae Grwp Llandrindod wedi trefnu taith o amgylch eu tref gan dynnu sylw at lefydd sydd yn gwerthu nwyddau Masnach Deg yn ogystal a llefydd o ddiddordeb hanesyddol.
- Mae Fair Trade Cardiff yn datblygu partneriaeth gyda threfnydd Walking For Health y sir.
- Mae Grwp Caerfyrddin yn gweithio gyda swyddogion hawliau tramwydd a thwristiaeth y sir.
Cynnal cyfarfod grwp Masnach Deg symudol!
Yn hytrach na chynnal eich cyfarfod yn y Neuadd arferol, trefnwch daith gerdded a siaradwch wrth gerdded…. Bydd y syniadau yn llifo! Defnyddiwch awyr iach i ysbrydoli pawb!
Beth am fynd ar daith tren i Dref Masnach Deg, neu cwrdd a grwp Tref arall ar gyfer taith.
Ychydig o Hwyl:
- Gwisgwch i fyn y mewn siwt banana!
- Rhoi thema Masnach Deg i’r Carnifal!
- Mae band Samba ysgol yn arwain taith yn Wrecsam!
Bod yn ddifrifol:
Wedi cael llond bol o’ch archfarchnad lleol ddim yn cadw nwyddau Masnach Deg? trefnwch daith Masnach Deg yno!
Dimond eisiau taith fach fer? Ar wyliau neu eisiau rhwybeth i anfon cerdyn post adref? Gwnewchy Daith Masanch Deg harddaf yng Nghymru. Gadewch i ni wybod ble mae hi. ( Yr un ar y blaen ar hyn o bryd yw o Mwnt i Dy Ddewi… a gafodd ei chreu wrth weld arwydd “We are a Fairtrade Church” yn y Capel bach yn Mwnt!)
Mae’r posibiliadau yn ddiderfyn… a dyma’r safle ble gallech gael ysbrydoliaeth a rhannu syniadau.. ond ar gfyer nawr, pam na wnewch chi ddiffodd y cyfrifadur a mynd am daith gerdded neis 🙂