Croeso

Croeso i Ffyrdd Masnach Deg Cymru.

Gwefan yw hon sydd yn cofnodi Ffyrdd Masnach Deg ar draws Cymru, ac mae’n cynnwys syniadau er mwyn i chi greu llwybrau eich hunain yn eich cymunedau. Bydd y teithiau yn amrywio o lwybrau pellter hir sy’n uno Trefi Masnach Deg i lwybrau byr a ddefnyddir gan ymgyrchwyr i hyrwyddo Masnach Deg.

Mae’r Llwybr Masnach Deg gwreiddiol, o Garstang i Keswick yn Ardal y Llynnoedd, Lloegr (www.fairtradeway.org.uk) dros 80 milltir o hyd. Y daith byrraf ar y wefan hon yw enghraifft o Ysgol Feithrin yn cerdded o gwmpas y Co-Op lleol gan edrych am nwyddau Masnach Deg.

Y peth gorau am Lwybrau Masnach Deg ydy y gallent fod yn beth bynnag yr ydych eisiau nhw i fod. Gallent fod yn daith hamddenol gymdeithasol ar hyd darn hyfryd o lwybr arfordirol ( Mwnt i Dŷ Ddewi) neu daith i’ch archfarchnad agosaf i fynnu eu bod yn cadw mwy o nwyddau masnach deg.

Rydym yn gobeithio y bydd cerddwyr yn defnyddio’r wefan hon, ei brif nod yw bod cefnogwyr ac Ymgrychwyr Masnach Deg yn ei defnyddio fel adnodd ac ysbrydoliaeth ar eu taith tuag at greu  tecach byd i bawb.

‘Rwyf wrth fy modd gyda’r datblygiad Ffyrdd Masnach Deg yma. Fel cerddwyr, rydym yn tueddu i fod yn barod am pob tywydd felly mae fflasgiau o siocled yn rhan o’n DNA. Bydd defnyddio diodydd Masnach Deg a siocled yn ein cynhesu trwodd’.

– Jane Davidson,
Director/Cyfarwyddwr, INSPIRE: Institute for Sustainable Practice, Innovation and Resource Effectiveness/Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithlonrwydd Adnoddau